Canolfan Pentre Awel, Llanelli, SA15 2EZ
07 Ionawr 2026
11am
3pm
Canolfan Pentre Awel - Diwrnod Lles
Rhowch groeso i 2026 yng Nghanolfan Pentre Awel gyda diwrnod sy’n canolbwyntio ar bob agwedd ar eich lles.
Dewch heibio am sgwrs anffurfiol
am eich lles ariannol a meddyliol yn ogystal â chyngor ar fyw'n dda gartref, gyda darparwyr gwasanaethau lleol sydd i gyd wedi ymrwymo i'ch helpu i ffynnu.
Eisiau gwybod mwy am gyfleusterau lles Pentre Awel? Bydd teithiau ar gael bob awr trwy gydol y digwyddiad.
Bydd gwiriadau iechyd a gweithgareddau lles creadigol hefyd ar gael am ddim. Nid oes angen archebu.
