Swyddi Gwag
Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad proffesiynol cyfeillgar, wedi'i arwain gan werthoedd. Rydym yn angerddol am gefnogi unigolion a chymunedau i ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad; gan adeiladu cymunedau caredig, cynaliadwy a chydlynus
Rydym am recriwtio pobl sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n hawydd i sicrhau newid cadarnhaol.
Bydd pob gweithiwr newydd yn derbyn:
- cyfnod sefydlu cynhwysfawr dros eu 12 mis cyntaf
- hyfforddiant sy'n adlewyrchu'r sgiliau unigol sydd eu hangen ar gyfer eu rôl
- cynllun pensiwn
- polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd e.e. gwyliau dibynyddion a gweithio hyblyg
- hawl i wyliau blynyddol hael
I gael rhagor o wybodaeth am ein holl swyddi gwag cyfredol, lawrlwythwch y disgrifiad swydd a manyleb y person perthnasol.

Swyddi Gwag Presennol
SWYDD-DDISGRIFIAD A MANYLEB Y PERSON
Gweithiwr Ieuenctid — Pedal Power Sir Gâr
|
Teitl swydd |
Gweithiwr Ieuenctid – Llyfrgell Feiciau Llanelli, Sir Gâr |
|
Yn atebol i |
Rheolwr Gweithrediadau |
|
Lleoliad gwaith |
Canolfan yr Arglwydd Arthur Rank, Llanelli Gyda gwaith allgymorth a chyflenwi cymunedol ar draws Llanelli |
|
Math o gontract |
Tymor penodol tan 31 Awst 2029 |
|
Oriau |
0.4 FTE (14 awr yr wythnos) Angen gweithio ar ôl oriau ysgol ac ar benwythnosau |
|
Cyflog |
£27,500 y flwyddyn pro rata |
|
Ariannwyd gan |
BBC Plant mewn Angen |
|
Gwiriadau cyn cyflogi |
Gwiriad DBS manwl gyda gwiriad Rhestr Wahardd: Plant |
AM FOOTHOLD CYMRU
Sefydlwyd Foothold Cymru yn fenter gymdeithasol nid er elw yn 1991, a daeth yn elusen gyfiawnder cymdeithasol gofrestredig ym mis Mawrth 2020. Ein gweledigaeth yw Cymru heb dlodi, gyda chyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bawb.
Rydym yn helpu pobl i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau tlodi ac anghydraddoldeb trwy ddylunio ein gwasanaethau gyda — nid ar gyfer — yr unigolion a’r cymunedau gaiff eu heffeithio fwyaf gan y materion hyn. Caiff ei gwaith ei ddarparu ar draws tair elfen:

AM Y PROSIECT
Mae Pedal Power Sir Gâr yn brosiect newydd a arweinir gan bobl ifanc ac wedi'i ariannu gan BBC Plant Mewn Angen, yn rhedeg o 2026 i 2029. Mae'n cefnogi pobl ifanc 14–18 oed sy'n byw mewn tlodi ac sydd ar gyrion addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Bob blwyddyn, mae 30 o bobl ifanc yn cwblhau hyfforddiant ymarferol achrededig mewn atgyweirio, diogelwch a chynnal a chadw beiciau, gan droi beiciau a roddwyd yn adnoddau cymunedol gwerthfawr. Mae pob cyfranogwr yn cadw beic y maent wedi'i atgyweirio eu hunain, gan ddileu rhwystr trafnidiaeth ac agor cyfleoedd newydd; mae beiciau sydd dros ben yn mynd i'n Llyfrgell Feiciau cymunedol.
Mae'r ddarpariaeth yn cael ei siapio gan grŵp llywio dan arweiniad pobl ifanc, y mae ei aelodaeth yn cyd-ddarparu'r prosiect trwy drefnu digwyddiadau “trwsio” cymunedol a theithiau beicio grŵp. Ynghyd â'r hyfforddiant ymarferol, mae pobl ifanc yn cael cefnogaeth gwaith ieuenctid, mentora un-i-un a chynllun “camau nesaf” personol, fel bod gan y prosiect lwybr clir — tuag at wirfoddoli, hyfforddiant pellach, neu waith.
Lleolir y prosiect yng Nghanolfan yr Arglwydd Arthur Rank ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, rhwydweithiau addysg gartref, gwasanaethau ceiswyr lloches, asiantaethau gofal a grwpiau cymunedol.
AMCAN Y SWYDD
Cynllunio, darparu a datblygu gweithgareddau gwaith ieuenctid cyffrous sy'n cefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc ar y prosiect Pedal Power. Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn creu amgylcheddau diogel, cynhwysol a chroesawgar lle gall pobl ifanc feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd, gwella eu llesiant a chael canlyniadau cadarnhaol.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Darparu’r prosiect
• Cynllunio, trefnu a darparu sesiynau a gweithgareddau gwaith ieuenctid o ansawdd uchel i 30 o bobl ifanc y flwyddyn.
• Gweithio ochr yn ochr â'r hyfforddwr arbenigol i ddarparu hyfforddiant ymarferol sydd wedi'i achredu ar drwsio, diogelwch a chynnal a chadw beiciau.
• Cefnogi pobl ifanc i gynllunio a rhedeg digwyddiadau cymunedol “trwsio” cymunedol a theithiau beicio grŵp.
• Sicrhau bod pob cyfranogwr yn cwblhau ac yn cadw beic wedi'i adnewyddu, a bod beiciau sydd dros ben yn cael eu hychwanegu i’r Llyfrgell Feiciau.
• Sicrhau bod pob gweithgaredd yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a bod y gweithdy yn amgylchedd gwaith diogel.
Cefnogi pobl ifanc
• Adeiladu perthynas broffesiynol a chadarnhaol gyda phobl ifanc 14-18 oed.
• Annog cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n hyrwyddo gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau a gosod nodau.
• Cefnogi pobl ifanc i adnabod eu cryfderau, diddordebau a dyheadau.
• Darparu sesiynau un-i-un i adolygu cynnydd ac ymdrin â rhwystrau megis gorbryder, pwysau teuluol neu ofidion ariannol.
• Cysylltu pobl ifanc â gwasanaethau cymorth eraill, gan gynnwys gwasanaeth ehangach Foothold Cymru i frwydro yn erbyn tlodi.
• Cytuno ar gynllun “camau nesaf” personol gyda phob person ifanc tua diwedd y flwyddyn academaidd, a’u cefnogi i barhau i wirfoddoli neu symud i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth.
Llais pobl ifanc a’u cynnwys
• Cefnogi'r grŵp llywio a arweinir gan bobl ifanc i siapio, cyd-dylunio a chyd-gyflawni'r prosiect, yn unol â'n pecyn cymorth cydgynhyrchu.
• Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o'r gwaith.
• Gweithio gyda phartneriaid cyfeirio a grwpiau cymunedol i gyrraedd pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o beidio â defnyddio'r ddarpariaeth presennol.
Diogelu, monitro ac adrodd
• Cydnabod pryderon diogelu ac ymateb yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r sefydliad.
• Cadw cofnodion, cofrestriadau a nodiadau cywir yn ôl gofynion cyllidwyr y prosiect.
• Monitro presenoldeb ac asesu effaith gweithgareddau.
• Cyfrannu at adroddiadau ariannu trwy adrodd gweithredol, astudiaethau achos a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyffredinol
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cyfateb i radd a phwrpas y swydd, fel y gofynnir yn rhesymol.
MANYLEB Y PERSON
Croesawn geisiadau gan bobl sydd wedi cael profiad y tu allan i swyddi ffurfiol. Os ydych chi'n bodloni'r rhan fwyaf o'r meini prawf hanfodol, byddem yn eich annog i wneud cais.
|
Hanfodol |
Dymunol |
|
• Cymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 sydd wedi'i gydnabod gan JNC mewn Gwaith Ieuenctid • TGAU (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg • Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc • Profiad o gynllunio a darparu gweithgareddau gwaith ieuenctid • Ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl ifanc, gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, addysg ac allgáu cymdeithasol • Profiad o weithio gydag unigolion o gefndiroedd amrywiol • Sgiliau TGCh da, gan gynnwys gallu sylfaenol gyda meddalwedd fel Canva • Gallu gweithio'n hyblyg ac yn rhan o dîm • Argaeledd i weithio y tu allan i oriau swyddfa, gan gynnwys ar ôl ysgol ac ar benwythnosau |
• Hyfforddiant cymorth cyntaf a diogelu (cyflwynir hyfforddiant os nad yw eisoes wedi’i gynnal) • Diddordeb mewn beicio neu gynnal a chadw beic — dim cymhwyster ffurfiol yn angenrheidiol, gan y caiff hyfforddiant technegol ei ddarparu gan hyfforddwr arbenigol • Profiad o gefnogi pobl ifanc trwy ddysgu achrededig neu alwedigaethol • Profiad o gyd-gynhyrchu neu weithio dan arweiniad ieuenctid • Sgiliau iaith Gymraeg
|
GWYBODAETH YCHWANEGOL
• Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS manwl gyda gwiriad Rhestr Wahardd: Plant.
• Mae’r swydd hon am dymor penodol a chaiff ei hariannu gan BBC Plant mewn Angen tan 31 Awst 2029.
• Mae'r rôl yn gofyn am waith gyda’r nos, ar ôl oriau ysgol ac ar y penwythnos yn rheolaidd; caiff yr oriau eu gweithio'n hyblyg trwy gytundeb gyda'n Rheolwr Gweithrediadau.
• Mae Foothold Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Nid yw'r swydd-ddisgrifiad hwn yn gyflawn a gellir ei adolygu a'i ddiwygio, mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd, i adlewyrchu anghenion datblygol y prosiect.
Mecanig/Hyfforddwr Beiciau
Job Role: Bike Mechanic/Trainer
Responsible To: Head of Operations
Contract Type: Fixed Term until 31st August 2029
Hours: 4 hours per week Plus 45 x 6-hour ad hoc sessions (year one only)
Out of hours/after school working and weekends required.
Place of Work: Lord Arthur Rank Centre & Llanelli Area
Salary: Real Living Wage - £13.45 per hour
The Project
You will be responsible for providing bike maintenance and instruction to young people for our two new bike projects:
- Our Llwynhendy Mobile Bike Library which comprises of 45 x 6-ho ad hoc sessions spread across 1 year providing repair café services at the Canolfan Llwynhendy in Llanelli.
- Pedal Power our youth led bike training project based at the Bike Library workshop at the Lord Arthur Rank Centre in Llanelli.
Job Purpose
We're looking for a Bike Mechanic to join our team, playing a key role in our mission to promote cycling and reduce waste. You'll be responsible for managing our workshop-based bike library at LAR and our mobile bike library.
This will include repair cafes where general repairs are provided to participants bicycles and basic bike maintenance repair teaching sessions for young people.
Duties and Key Responsibilities
• Bike Repair Cafes: Diagnose and repair customer bikes in a welcoming and efficient manner, providing exceptional customer service.
• Maintenance Classes: Design and deliver engaging and informative classes to empower individuals with basic bike maintenance skills.
• Inventory Management: Maintain accurate stock levels of parts and tools, placing orders as needed.
• Technical Expertise: Stay up-to-date on the latest cycling trends and technologies, providing expert advice to customers.
• Community Engagement: Promote cycling as a sustainable mode of transportation and contribute to a vibrant cycling community.
• Maintain records of numbers of participants assisted in the repair cafes.
Person Specification
• Proven experience as a bike mechanic with a strong understanding of bicycle components and repair techniques.
• Excellent communication and interpersonal skills, providing exceptional customer service in a diverse and inclusive environment.
• Ability to work independently and as part of a team, managing multiple tasks and priorities effectively.
• Passion for cycling and a commitment to sustainability principles.
• Experience teaching or leading workshops is a plus.
• Experience working with young people is a plus but not required.
• First Aid and safeguarding training (desirable or training will be provided).
• DBS (required, will be provided).
• Basic ICT skills (desirable) including preparation of documents to support the sessions if required.
• Driving License (required) – to drive the mobile bike library.
• Ability to work after school hours and weekends is required for this role.
How to apply
Please send a cover letter detailing your experience (max 1 page) alongside your CV to hr@footholdcymru.org.uk
This job advert closes on the 16th August 2026.
The job will commence on the 1st September 2026.