Gardd Gymunedol
Gardd Gymunedol
Mae ein Gardd Gymunedol yn lle hardd i ymgysylltu â natur. Mae hefyd yn lle gwych i ddysgu am dyfu, bwyta cynaliadwy ac arferion amgylcheddol y gellir eu mabwysiadu'n hawdd gartref.
Rydym yn annog gwirfoddoli yn ein Gardd Gymunedol gan ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion! Mae croeso i bawb!
Mae cyfleoedd ar gael bob amser o ran:
- chwynnu
- plannu a gofalu am eginblanhigion
- dyfrio
- cynaeafu llysiau ar gyfer ein siop gymunedol
- gofalu am lwybrau cerdded a gwelyau
Mae gennym hyd yn oed gyfleoedd ar gael i 'rentu gwely', os ydych chi'n chwilio am gyfle i dyfu eich llysiau eich hun.
Mae ein Gardd Gymunedol wedi'i lleoli'n gyfleus ym Mharc Menter Foothold ar Ffordd Burry yn Llanelli. Mae parcio am ddim ar gael.
Ffoniwch ein swyddfa ar 01554 779910 neu e-bostiwch am ragor o wybodaeth.
info@footholdcymru.org.uk