Porth Gwyrdd: Green Gateway
Mae Prosiect y Porth Gwyrdd yn helpu pobl ifanc ag anableddau a'r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru i ennill y sgiliau a'r profiad i lunio gyrfa sy'n amddiffyn y blaned.
Gyda'n gilydd, gyda chyflogwyr lleol, rydym yn torri rhwystrau, yn agor drysau, ac yn pweru'r economi werdd.
Pwy ydym ni?
Mae'r Porth Gwyrdd yn cael ei ariannu gan Gronfeydd Segur, yn cael ei reoli gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac yn cael ei arwain gan Foothold Cymru mewn partneriaeth ag Antur Cymru, PLANED, a Menter Gorllewin Sir Gâr.
Gyda'n gilydd rydym yn cefnogi pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol - gan gynnwys y rhai ag anableddau neu o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig - i gael mynediad at hyfforddiant, profiad gwaith, a gyrfaoedd yn economi werdd Cymru.
Mae ein tîm ymroddedig yn darparu arweiniad a chefnogaeth i bobl ifanc a chyflogwyr ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys.
I Ddarganfod Mwy
Edrychwch ar y wybodaeth lawn am y prosiect hwn ar eu gwefan bwrpasol. Dolen isod.
Neu cysylltwch â Jon yn - jonathan@footholdcymru.org.uk