Swyddi Gwag
Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad proffesiynol cyfeillgar, wedi'i arwain gan werthoedd. Rydym yn angerddol am gefnogi unigolion a chymunedau i ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad; gan adeiladu cymunedau caredig, cynaliadwy a chydlynus
Rydym am recriwtio pobl sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd a'n hawydd i sicrhau newid cadarnhaol.
Bydd pob gweithiwr newydd yn derbyn:
- cyfnod sefydlu cynhwysfawr dros eu 12 mis cyntaf
- hyfforddiant sy'n adlewyrchu'r sgiliau unigol sydd eu hangen ar gyfer eu rôl
- cynllun pensiwn
- polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd e.e. gwyliau dibynyddion a gweithio hyblyg
- hawl i wyliau blynyddol hael
I gael rhagor o wybodaeth am ein holl swyddi gwag cyfredol, lawrlwythwch y disgrifiad swydd a manyleb y person perthnasol.