Llyfrgell Beiciau Foothold Cymru yn Derbyn Cyllid
Mae Foothold Cymru wrth eu boddau wedi derbyn cyllid ar gyfer ein Llyfrgell Beiciau sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Lord Arthur Rank yn Llanelli.
Bydd y prosiect hwn, sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc ac yn cael ei ariannu gan BBC Children in Need, yn rhedeg rhwng 2026 a 2029.
Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed sy'n byw mewn tlodi ac sydd ar gyrion addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Bob blwyddyn, bydd 30 o bobl ifanc yn cwblhau hyfforddiant ymarferol achrededig ym maes atgyweirio, diogelwch a chynnal a chadw beiciau, gan drawsnewid beiciau a roddwyd yn adnoddau cymunedol gwerthfawr.
Mae pob cyfranogwr yn cadw beic maen nhw wedi'i adnewyddu eu hunain, gan ddileu rhwystr trafnidiaeth ac agor cyfleoedd newydd; mae unrhyw feiciau dros ben yn mynd i'n Llyfrgell Beiciau gymunedol.
Mae'r prosiect wedi'i leoli yng Nghanolfan Lord Arthur Rank ac yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, rhwydweithiau addysg gartref, gwasanaethau ar gyfer ceiswyr lloches, asiantaethau gofal a grwpiau cymunedol.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu wybod sut y gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch รข Charlotte - Charlotte@footholdcymru.org.uk.