01 EBR

Prosiect Future Changemakers yn Cefnogi Digwyddiad Ieuenctid Lleol

Prosiect Future Changemakers yn Cefnogi Digwyddiad Ieuenctid Lleol

Prosiect Future Changemakers yn Cefnogi Digwyddiad Ieuenctid Lleol

Ar ddydd Iau 12fed o Fawrth, mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Ieuenctid Sir Gâr, Cyngor Sir Gâr a Foothold Cymru, cynhaliwyd digwyddiad ‘Cwrdd â’r Ymgeiswyr’ i bobl ifanc 16-18 oed yng Nghanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin.

 

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gyfarfod a holi’r ymgeiswyr ar gyfer etholaeth Sir Gaerfyrddin yn Etholiad y Senedd ym mis Mai.

 

Gwelodd digwyddiad Hystingau’r Ieuenctid dros 40 o bobl ifanc yn bresennol, yn cynrychioli ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Sir Gâr.

 

Cwestiynwyd yr ymgeiswyr am faterion pwysig a chaniataodd i’r bobl ifanc gael profiad uniongyrchol o’r broses ddemocrataidd.

 

Ymhlith y meysydd trafod roedd cefnogaeth trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, gwasanaethau’r GIG gan gynnwys hygyrchedd ac amseroedd aros, pryderon ynghylch ffioedd dysgu, Mewnfudo, Amaethyddiaeth a Ffermio. Yn ogystal â rhai materion gwleidyddol mwy lleol ac ehangach.

 

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion Sir Gâr fynegi eu barn a defnyddio eu llais dros newid.

 

Dywedodd un o fynychwyr ysgol Maes y Gwendraeth:

"Roedd yn wych cael cyfle i siarad ag Ymgeiswyr y Senedd o bob plaid wleidyddol. Roedd yn ddiddorol iawn cael barn gwahanol bleidiau ar faterion sy'n bwysig i mi."

 

Cefnogwyd y digwyddiad gan ein tîm Future Changemakers, prosiect sy'n ymroddedig i ymgysylltu pobl ifanc yn y broses wleidyddol a rhoi hyder iddynt fynegi eu barn ar bynciau sy'n bwysig iddynt.

 

Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o'r digwyddiad.

Rhagor o bostiau

Yn ôl at newyddion
Tîm Digital Lifelines yn Mynychu Diwrnod Lles yng Nghanolfan Pentre Awel
14 Hyd
News

Tîm Digital Lifelines yn Mynychu Diwrnod Lles yng Nghanolfan Pentre Awel

Llyfrgell Beiciau Foothold Cymru yn Derbyn Cyllid
01 Hyd
News

Llyfrgell Beiciau Foothold Cymru yn Derbyn Cyllid

Arddangosfa - Astudiaeth Achos Canllawiau Teulu
23 Gorff
News

Arddangosfa - Astudiaeth Achos Canllawiau Teulu